Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Geffylau

Cynhaliwyd yn Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel

Ddydd Mawrth 30 Mehefin 2015 am 6pm

 

 

 

Yn bresennol:

Angela Burns AC (Cadeirydd)

Stuart Burns (Staff Cymorth Angela Burns)

Janet Finch-Saunders AC (Is-gadeirydd)

Lee Hackett (Cyfarwyddwr Polisi Ceffylau Cymdeithas Ceffylau Prydain)

Jenny MacGregor (SWHP)

Rachel Evans (Cyfarwyddwr Cymru, y Gynghrair Cefn Gwlad)

Tony Evans (WHW)

Rick Lewis (Heddlu De Cymru)

Alan Pearce (Trafnidiaeth Ceffylau)

Phillip York (SWHP)

Elaine Griffiths (Swyddog Lles Cymdeithas Ceffylau Cymru)

Jan Roche (Ysgrifenyddiaeth)

Colin Thomas (Y Gymdeithas Gwella Merlod Mynydd)

Helen Manns (British Driving Society)

ED Gummery (WPCS)

 

                                                                                                                                   

Ymddiheuriadau:

Nic De Brauwere (Redwings)

Mark Weston (Cyfarwyddwr Mynediad Cymdeithas Ceffylau Cymru)

Graham Capper (Ymgynghorydd Ceffylau)

Maureen Lloyd (STAGBI)

Huw Rhys Thomas (NFU)

Lee Jones (CBSP)

Arolygydd Rowan Moore (HDC)

J Staley (Tiroedd Comin)

William Jenkins (NFU Cymru)

 

 

                                                   

 

  1. Croesawodd Angela Burns bawb i'r cyfarfod.

 

  1. Nodwyd yr ymddiheuriadau a ddaeth i law.

 

  1. Deddfwriaeth Newydd ar Adnabod Ceffylau: Rhoddodd Lee Hackett ddiweddariad ar y sefyllfa gyfredol o ran y Ddeddfwriaeth Adnabod Ceffylau newydd fyddai'n cael ei chyflwyno o 2016 dan gyfraith Ewropeaidd - roedd y broses ynghylch y mater yn dal i fynd yn ei blaen. Bydd newidiadau i'r ffordd y bydd pasbortau yn cael eu dyroddi ynghyd â chronfa ddata ceffylau newydd. Mae'n bosibl y caiff yr Alban ei chronfa ddata ei hun, ond nid oedd unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd am rywbeth  tebyg yng Nghymru. Cafwyd trafodaeth hefyd ynglŷn â gosod sglodion micro yn ôl-weithredol gan fod rhai gwladwriaethau Ewropeaidd eraill wedi mabwysiadu'r cam hwn yn barod. Byddai eglurhad pellach ar gael ymhen 3 i 4 wythnos. Dywedodd Rachel Evans y byddai'n ysgrifennu at DEFRA ar ran y Gynghrair Cefn Gwlad i ofyn am wybodaeth am y datblygiadau a bydd Lee Hackett yn cadw llygad ar bethau ar ran y Grŵp.

 

  1. Strategaeth a Diweddariadau Tiroedd Comin: Diolchodd Angela Burns i Phillip York a Stuart Burns am y gwaith paratoi a'r ymchwil yr oedden nhw wedi'i wneud. Gan mai 10 mis yn unig oedd ar ôl o dymor presennol Llywodraeth Cymru ni fyddai amser nawr i ddod ag unrhyw newid cyn Ebrill 2016. Ni fyddai'r Ymchwiliad Merlod Cynhenid ​​nawr yn mynd yn ei flaen chwaith, er gwaethaf ymdrechion gorau y Grŵp. Roedd y sefyllfa o ran lles ceffylau ar y tiroedd comin yn dirywio ymhellach - roedd mwy o gobiau mawr yn rhyngfridio ac roedd tystiolaeth ffotograffig graffig wedi ei chofnodi.

Roedd cannoedd o geffylau ar un comin gydag ychydig iawn neu ddim pori a llawer iawn o stalwyni yn bridio yn ddiwahân gan olygu bod rhagor o geffylau yn cael eu gadael bob blwyddyn. Roedd yr anifeiliaid cyfain hyn yn ymosod ar ebolion ac roedd y cesig yn cael eu hanafu oherwydd bod cynifer yn eu canlyn. Roedd clefydau a newyn yn gyffredin iawn. Roedd yr elusennau ceffylau i gyd yn llawn. Mae'r sefyllfa hon yn unigryw yng Nghymru gan ei bod ar raddfa mor fawr.

Roedd y Ferlen Fynydd Gymreig lled wyllt gynhenid yn diflannu o ganlyniad. Roedd angen ffocws clir ac roedd angen i'r grŵp gyflwyno cynnig i alw am weithredu gan y Llywodraeth yn gyntaf yn y tymor byr a gweithredu ar unwaith i atal gorfridio a dioddefaint pellach. Dywedodd Colin Thomas nad oedd llawer o aelodau'r Gymdeithas Gwella Merlod Mynydd wedi troi stalwyni allan eleni - ac awgrymodd camau difa posibl fel un ateb i'r sefyllfa. Dywedodd Phillip York na allai unrhyw bosibilrwydd o weithredu o'r fath gynnwys ceffylau iach. Ar yr ochr arall mae'n rhaid i dirfeddianwyr a chominwyr fod yn gyfrifol hefyd a gweithredu ynghylch y broblem. Roedd Phillip York wedi ymchwilio i ardaloedd eraill y DU - Dartmoor, New Forest ac ati - maent i gyd yn ymgasglu yn yr hydref ac yn cynnal asesiadau milfeddyg.

Roedd angen cytundeb ymhlith pawb i ffurfio cynllun rheoli ar gyfer y ceffylau lled wyllt. Cytunwyd yn gyffredinol nad oedd y cynllun rhan-ddirymiad yn gweithio gan fod gormod o  bobl yn anwybyddu'r cytundeb - roedd hynny'n drueni gyfer y bridwyr dilys.

Teimlai Helen Manns fod angen ailedrych ar rwystro/trwyddedu stalwyni.

Dywedodd Rachel Evans fod grwpiau lleol yn ymwneud â'r merlod mynydd yn cwrdd a bod cynlluniau rheoli sy'n gweithio'n dda ganddynt, er bod y cynlluniau hynny ar raddfa fach.

Awgrymodd Ellie Griffiths fod angen rheolwr ar bob comin. Dywedodd Stuart Burns fod hyn yn ateb posibl, yn yr un modd ag yr oedd cael cymdeithas cominwyr ar bob comin i reoli yn effeithiol. Roedd yna hefyd rwystrau posibl i'w goresgyn.

Dywedodd Rick Lewis o safbwynt yr heddlu os oedd anifail yn dioddef, byddai milfeddyg yn cael ei alw ar unwaith ond gallai adnabod y perchennog bob amser fod yn broblem.

Dywedodd Phillip York y dylai tiroedd comin gael eu clirio unwaith y flwyddyn gan y bydd yr holl borwyr cyfreithlon yn symud eu hanifeiliaid ac ar y cyfan byddai'r rhai oedd ar ôl yn rhai oedd wedi cael eu gadael.

Byddai hyn yn gorfod cael ei weithredu wrth weithio gyda chymorth y cominwyr a'r heddlu a dywedodd Rick Lewis y byddai modd trefnu hyn drwy swyddogion lleol.

 

Yn y cyfamser roedd lle i ymestyn y rhaglen atal cenhedlu a roddwyd ar waith yma gan SWHP ac a gafodd ei threialu mewn ardaloedd eraill o Gymru, rhywbeth oedd yn ymddangos yn beth cadarnhaol iawn. Roedd SWHP wedi cydweithio â rhai cymdeithasau tiroedd comin yng Nghymru a hyd yn hyn wedi brechu nifer o ferlod ar eu cost eu hunain. Esboniodd Phillip York fod llun yn cael ei dynnu o bob anifail  gyda disgrifiad llawn yn cael ei gofnodi cyn i'r dull atal  cenhedlu gael ei roi. Roedd hwn yn brosiect 2 i 5 mlynedd ac nid oedd yn golygu y byddai'r anifail o reidrwydd yn dod yn anffrwythlon. Unwaith eto, roedd rheoli tiroedd comin yn fater allweddol. Cododd Colin Thomas hefyd y pwynt o ran SoDdGA ar rai tiroedd comin - byddai hyn yn effeithio ar reolaeth hefyd.

 

Gofynnodd Angela Burns wrth grynhoi i bob aelod o'r grŵp ystyried eu pwyntiau gweithredu pwysicaf o gwmpas y materion hyn a'u cyflwyno drwy e-bost i'r ysgrifenyddiaeth Jan Roche o fewn y 4 i 6 wythnos nesaf er mwyn rhoi dogfen derfynol at ei gilydd gan y Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer y Ceffyl drwy Angela Burns y Cadeirydd a gyda chytundeb y Grŵp i Lywodraeth Cymru fel mater o frys i wneud y gwaith sydd ei angen.

 

5.      Unrhyw Fater Arall - diolchodd Lee Hackett y Grŵp - yn dilyn y gwaith o ran deddfwriaeth Cymru ar gyfer y Bil Rheoli Ceffylau (Cymru), roedd Lloegr bellach wedi dilyn yr un trywydd ac roedd y Bil wedi cael ei basio yno.